Hygyrchedd

Rydym wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod ein gwefan yn unol â chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1 AA

Beth rydyn ni’n ei wneud

Cymraeg Clir

Rydym yn ceisio ysgrifennu Cymraeg clir ac osgoi defnyddio jargon lle y bo’n bosibl. Os nad ydych yn deall rhywbeth, rhowch wybod i ni.

Strwythur Penawdau

Mae’r wefan yn defnyddio strwythur penawdau syml a ddylai ei wneud yn haws i’w chwilio, yn enwedig i bobl sy’n defnyddio darllenwyr sgrîn.

Safonau rhyngrwyd

Rydym yn gwneud ein gorau glas i gydymffurfio â safonau codau (e.e CSS a HTML) a chanllawiau W3C WAI 

Neidio i’r cynnwys

Rydym wedi cynnwys dolen ‘neidio i’r cynnwys’ ar frig pob tudalen sy’n osgoi’r ddewislen llywio ac sy’n symud yn uniongyrchol i’r cynnwys i’r rhai sy’n defnyddio technoleg darllen sgrîn.