Cymorth Lles Cyflogaeth

Mae ein cymorth lles yn agored i drigolion Sir Fynwy sy’n 16 oed ac yn hŷn.  Os nad ydych yn teimlo’n barod am waith neu os ydych chi wedi bod allan o waith ers tro, gallwn archwilio ystod o gymorth wedi’i deilwra i’ch helpu i reoli eich lles ac archwilio’r camau nesaf.

Archwilio eich Amgylchiadau:

  • Gofod Cyfrinachol: Amser i chi edrych ar yr hyn sy’n digwydd i chi ar hyn o bryd. P’un a ydych yn ddihyder, yn teimlo’n bryderus neu wedi’ch gorlethu, mae sesiynau 1:1 yn ofod i chi siarad am hyn ac ystyried ffyrdd ymlaen.
  • Rhwystrau Penodol i Waith: P’un a ydych wedi bod yn ddi-waith am gyfnod neu os nad ydych yn teimlo’n barod i weithio, gall nodi pa bryderon y gallech fod o gymorth. A oes gennych hyder i ymgeisio am swyddi?  Ydych chi’n poeni am gyfweliadau?  Ydych chi’n teimlo’n nerfus am ddechrau rhywbeth newydd?
  • Eiriolaeth: Gall dod o hyd i’r cymorth sydd ei angen arnoch fod yn anodd gyda chymaint o wasanaethau ar gael. P’un a oes angen help arnoch i fynd at y meddyg teulu i drafod eich iechyd meddwl, neu i gael nodyn ffitrwydd, neu i gael mynediad i asiantaethau eraill fel MIND neu Tai, gallwn archwilio hyn gyda’n gilydd.
  • Cwnsela sy’n Canolbwyntio ar Gyflogadwyedd: Os ydych yn teimlo bod angen cefnogaeth y tu hwnt i sesiynau 1:1, gallwn archwilio eich atgyfeirio at Gwnsela. Os oes nifer o bethau’n digwydd i chi, efallai y byddai’n ddefnyddiol archwilio rhywfaint o hyn gyda Chwnselydd a rhywfaint o hyn drwy ddull 1:1. Rydym yn cwblhau’r atgyfeiriad gyda chi i sicrhau ei fod yn gyfredol ac mae Cwnsela yn briodol i chi.  Bydd ein Gweithwyr Lles yn gallu darparu rhagor o wybodaeth am feini prawf ac atgyfeiriadau.
  • Gweithdy Chwe Cham: Mae diwrnod cyntaf y gweithdy yn helpu i archwilio rhwystrau sy’n ymwneud â chyflogaeth, hyder, cymwysterau a phrofiad.  Dilynir hyn gan gyflwyniad i osod nodau strwythuredig.  Os nad ydych yn teimlo’n gyfforddus mewn grwpiau bach, gallwn archwilio dull 1:1.
  • Dyfeisiwch eich Dyfodol: Fersiwn fwy manwl o’r Chwe Cham ac wedi’i gyflwyno mewn dull 1:1 dros dair neu bedair sesiwn. Dechreuwn drwy edrych ar feysydd o’ch bywyd rydych chi am ddechrau gwneud newid ystyrlon ynddynt, rydyn ni’n archwilio arferion, agweddau a chredoau craidd mewn rhyw ddyfnder. Rydym yn gorffen trwy ddeall ac ymarfer sut i ail-fframio’r rhain, a’u cymhwyso i nodau strwythuredig y gallech fod am eu cyflawni.
  • Gwybodaeth: Mae angen i ni gasglu rhywfaint o wybodaeth oddi wrthych, byddwn yn cwblhau asesiad ac yn cytuno ar gynllun gweithredu ar y cyd. Bydd angen i chi gadarnhau ein bod wedi egluro RhDDC, cyfrinachedd a’ch bod wedi llofnodi ein cytundeb gweithredol.
  • Cyfarfodydd: Gallwn ddal i fyny wyneb yn wyneb yn un o’n lleoliadau cymunedol neu alw heibio i’r Ganolfan Waith. Gallwn hefyd ffonio neu gwrdd dros Teams. Oherwydd ein polisi gweithio unigol, ni allwn gynnal ymweliadau cartref.
  • Hyblygrwydd: Bydd pob cyfarfod yn cael ei gynnal rhwng 9.30am a 4.30pm, oherwydd amseroedd agor ein lleoliadau, ni allwn gwrdd gyda’r nos. Efallai y bydd ein staff yn anfon gwybodaeth y tu allan i’r oriau hyn megis cadarnhadau cyrsiau neu negeseuon testun atgoffa.
  • Hyd y Gefnogaeth: Nid oes amserlen benodol na nifer penodol o sesiynau, gan fod pawb yn wahanol. Efallai y byddwch yn gweld bod dal i fyny ychydig o weithiau yw’r cyfan sydd ei angen arnoch, neu efallai y byddwch yn elwa o gymorth tymor hwy. Byddwn yn adolygu hyn bob 4-6 wythnos.
  • Asiantaethau Eraill: Gallwn weithio gyda chi os ydych yn ymgysylltu â gwasanaethau eraill.  Mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni pa gymorth arall rydych yn derbyn.  Nid ydym am ddyblygu’r gwaith da sydd eisoes yn cael ei wneud.  Gall cael yr un sgwrs â dau berson neu asiantaeth fod yn ddryslyd i chi.