Cymorth Busnes

Croeso i Busnes Sir Fynwy!

Eich porth i lwyddiant busnes yn Sir Fynwy

Ydych chi’n berchennog busnes neu’n entrepreneur sy’n dymuno ffynnu yn Sir Fynwy? Does dim raid i chi edrych ymhellach! Busnes Sir Fynwy yw eich siop-un-stop neilltuol, a gynlluniwyd i roi cefnogaeth a chymorth cynhwysfawr i helpu busnesau i sefydlu, tyfu a ffynnu yn yr ardal hardd yma.

Amdanom Ni

Deallwn fod angen myrdd o adnoddau, adnoddau, arweiniad ac arbenigedd lleol i redeg busnes. Dyna lle y deuwn ni i mewn iddi. Mae Busnes Sir Fynwy yn gweithredu fel eich partner dibynadwy, gan eich cysylltu gyda chyfoeth o wasanaethau arbenigol a chyngor arbenigol a deilwriwyd i ddiwallu anghenion unigryw eich busnes.

Cyngor busnes: Mae ein tîm profiadol yn ymroddedig i ddeall eich nodau a’ch heriau penodol. Maent yn darparu cyngor ac arweiniad personol i’ch helpu i wneud penderfyniadau gwybodus, creu strategaethau effeithlon a chynyddu eich potensial am lwyddiant i’r eithaf. P’un ai yw hynny yn eich cysylltu gyda darparwyr cyllid neu hwyluso partneriaethau gyda sefydliadau cymorth eraill, rydym yn ymroddedig i’ch helpu drwy ddefnyddio ein rhwydwaith a’n harbenigedd.

Rhwydweithio a Chydweithio:  Rydym yn credu yng ngrym cysylltiadau. Drwy Busnes Sir Fynwy byddwch yn cael mynediad i rwydwaith helaeth o bartneriaid cefnogi, rydym yn gweithio’n galed i hwyluso cydweithio a helpu i adeiladu partneriaethau ffrwythlon o fewn cymuned fusnes lewyrchus Sir Fynwy.

Cymorth gyda Chyllid: Deallwn fod adnoddau ariannol yn hanfodol ar gyfer twf busnes. Gall ein tîm eich cynorthwyo i ymchwilio gwahanol opsiynau cyllid, gan eich cysylltu gyda darpar fuddsoddwyr, sefydliadau ariannol a chyfleoedd cyllido eraill i borthi eich uchelgais.

Cyflogaeth a Sgiliau: Gan weithio gyda thîm cyflogaeth a sgiliau Cyngor Sir Fynwy gallwn eich helpu gyda recriwtio a hyfforddiant. Rydym hefyd yn gweithio gyda nifer o sefydliadau partner a all gynorthwyo gyda recriwtio a chadw gweithlu.

Safleoedd Busnes a Seilwaith: Ydych chi’n edrych am y lleoliad perffaith i sefydlu neu ehangu eich busnes? Gallwn eich cysylltu gydag adeiladau masnachol addas, safleoedd diwydiannol a mannau gwaith a rennir yn Sir Fynwy, gan eich helpu i ganfod y lleoliad delfrydol i wireddu eich uchelgais.

Cymerwch y cam cyntaf tuag at dwf a ffyniant yn Sir Fynwy. Ymchwiliwch ein gwefan, pori drwy ein ystod cynhwysfawr o wasanaethau a chysylltu gyda’n tîm cyfeillgar. Gadewch i ni ddatgloi potensial llawn eich busnes gyda’n gilydd!

Croeso i Busnes Sir Fynwy – Eich Porth i Lwyddiant!

I ddrefnu apwyntiad ffôn efo swyddog cymorth busnes neu am fwy wybodaeth defnyddio’r botwm CYSYLLTWCH isod.