Amdanom ni

Rydym am i Sir Fynwy fod yn lle rydych chi’n teimlo eich bod yn cael eich cefnogi yn eich gyrfa a’ch bod yn gallu cael gafael ar yr addysg, y gyflogaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ffynnu drwy gydol eich bywyd gwaith.

Mae’r Tîm Cyflogaeth a Sgiliau yn cynnwys prosiectau amrywiol i gefnogi pobl, sydd o oedran ysgol i fyny, gydag amrywiaeth o anghenion cyflogaeth a hyfforddiant.

Gallwn eich helpu gyda:

  • Cyngor ac arweiniad un i un
  • Hyfforddiant a Chymwysterau
  • Cyflogaeth a Chymorth Lles
  • Cymorth Busnes
  • Cymorth i ddisgyblion

Cysylltwch â ni heddiw a chael help gyda’ch gyrfa.

Ein Hymrwymiad

Drwy weithio gyda’n cymunedau, byddwn yn creu rhwydwaith cymorth Economi, Cyflogaeth a Sgiliau a fydd yn bodloni’r disgwyliadau a’r anghenion yr ydych chi a’n busnesau lleol yn eu haeddu, gan sefydlu Sir Fynwy ymhellach fel un o’r lleoedd gorau yn y wlad i fyw, dysgu a gweithio.

Ein Pwrpas

Rydym am i’ch Sir Fynwy ‘chi’ fod yn lle rydych yn teimlo eich bod yn cael eich cefnogi, yn cael y cyfle i gael mynediad i’r addysg, cyflogaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ffynnu drwy gydol eich bywyd gwaith.

Ein Gweledigaeth

Drwy weithio gyda’n cymunedau, byddwn yn creu rhwydwaith cymorth Economi, Cyflogaeth a Sgiliau a fydd yn bodloni’r disgwyliadau a’r anghenion yr ydych chi a’n busnesau lleol yn eu haeddu, gan sefydlu Sir Fynwy ymhellach fel un o’r lleoedd gorau yn y wlad i fyw, dysgu a gweithio.

Amcanion

Mae ein cynllun yn nodi sut mae ein Tîm Cyflogaeth a Sgiliau yn bwriadu cefnogi unigolion o oedran gweithio i wneud cynnydd drwy ennill y sgiliau sydd eu hangen ar ein heconomi:

Cyflawnir hyn drwy’r canlynol:

  • Bod yn fwy creadigol gyda’n Cyfryngau Cymdeithasol gan eu gwneud yn haws ac yn fwy deniadol i chi
  • Cadw’n actif  yn y gymuned drwy ein rhaglenni cyflogaeth
  • Mynd ati i chwilio am gyfleoedd ariannu yn y dyfodol i sicrhau y gallwn ddarparu’r gwasanaethau gorau posibl
  • Parhau â’n gwaith mewn ysgolion sy’n cefnogi’r rhai sydd ei angen fwyaf, gan sicrhau eu bod yn cael yr un cyfleoedd dysgu â’u cyfoedion ac nad ydynt yn cael eu gadael ar ôl
  • Cynyddu’r ystod o gymwysterau rydym yn cynnig, gan ddiwallu anghenion cymunedol a busnes lleol
  • Cynnig cyfleoedd i wella sgiliau neu ailhyfforddi, gan deilwra hyn i fodloni eich disgwyliadau chi, eich cyflogwr a’ch cyflogwr yn y dyfodol.
  • Creu swyddi prentisiaeth, graddedigion ac interniaethau i gwrdd â bylchau sgiliau yn yr awdurdod lleol a’r gymuned fusnes gyfagos.

Cymorth Cyflogadwyedd

  • Mynd i’r afael â rhwystrau personol a chymdeithasol i waith
  • Cymorth dwys wedi’i deilwra
  • Ennill cymorth gwerthfawr i chwilio am swyddi a cheisiadau am swyddi
  • Creu a gwella CVau
  • Gwella technegau cyfweld a ffug gyfweliadau
  • Cymorth i mewn i waith ac yn y gwaith

Cymorth Sgiliau a Hyfforddiant

  • Ail-hyfforddi neu uwchsgilio i gyfateb i gyfleoedd cyflogaeth
  • Ennill sgiliau trosglwyddadwy neu ailsgilio
  • Mynd i’r afael â Sgiliau Unigol
  • Cyrsiau hyfforddiant galwedigaethol gan gynnwys iechyd a diogelwch Lefel 2, hylendid bwyd, deiliaid trwyddedau personol

Cymorth Arbenigol

  • Mentora, cyngor ac arweiniad unigol
  • Cymorth iechyd meddwl a lles
  • Mynediad at ystod o wasanaethau arbenigol

Beth ydyn ni wedi bod yn ei wneud?

Dyma rhai o’r uchafbwyntiau ar ddraws ein prosiectau sy’n pwysleisio’r werth ac effaith ein gwaith yn cael yn ein cymunedau hyd yma.

  • Ers Ebrill 2021, mae ein prosiectau cyflogadwyedd wedi cefnogi 284 o gyfranogwyr 16+ oed i gael gwaith amser llawn, rhan amser ac hunangyflogaeth.
  • Ers Rhagfyr 2020, mae ein canolfan cymwysterau wedi cefnogi 465 o gyfranogwyr i uwchsgilio a chael cymwysterau i wella eu rhagolygon cyflogaeth.
  • Ers Ionawr 2023, mae ein prosiectau Ysbrydoli wedi gweithio gyda 152 o bobl ifanc, gan eu cefnogi i leihau eu siawns o ddod yn ‘NEET’ ac ennill cymwysterau a sgiliau bywyd drwy ein gwaith.
  • Ers Ebrill 2023, mae Busnes Sir Fynwy wedi ymateb i fwy na 180 o ymholiadau gan fusenesau newydd a busnesau presennol.

Prosiectau

Cynorthwyir ein cefnogaeth gan Lywodraeth y DU, Prosiectau a Ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop.

  • Ysbrydoli i Gyflawni
  • CELT
  • Ysbrydoli i Weithio
  • Cymunedau dros Waith a Mwy
  • Sgiliau@Gweithle