Help i gael gwaith
Ydych chi’n chwilio am waith?
- Os ydych yn 20 oed neu’n hŷn ac yn edrych am waith, gallwn ddarparu cymorth cyflogaeth i chi.
P’un ai hon yw’ch swydd gyntaf neu’ch swydd nesaf , gallwn eich cefnogi gyda’r canlynol:
- Ysgrifennu CV
- Sqiliau Cyfweld a Chyngor
- Chwilio am swydd ac Arweiniad Cais
- Cyrsiau Achrededig Byr yn Gysylltiedig â Gwaith
- Cymorth Ariannol i Leihau Rhwystrau i Waith
- Mentora ac Adeiladu Hyder
- Cysylltu â Chyflogwyr Lleol
Ddim yn barod am waith eto?
Os nad ydych yn teimlo’n barod i chwilio am waith neu os ydych wedi bod yn ddi-waith ers sbel, gallwn eich cefnogi drwy gynnig:
- Eiriolaeth a Mentora
- Cyrsiau Lles
- Cymorth Bydd-daliadau
- Cefnogaeth Lles Personol ac Emosiynol
Am fwy o wybodaeth amdano’r math o gymorth lles rydym yn cynnig, cliciwch yma.
Hunangyflogedig neu ddechrau eich busnes eich hun?
Gallwch gael cymorth os ydych yn ystyried sefydlu busnes neu os ydych eisoes yn hunangyflogedig.
Efallai y gallwn eich cefnogi gyda:
- Cyllid ar gyfer eitemau neu offer posibl y bydd arnoch eu heisiau i ddechrau neu ddatblygu’ch busnes.
- Hyfforddiant sy’n berthnasol i’ch busnes, gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol a diogelwch bwyd.
Dysgu mwy am gymorth busnes.