Adborth a diolch!

Lle i arddangos yr adborth aruthrol dderbyniwyd gan ddefnyddwyr ein gwasanaeth am y gwaith rhagorol rydym yn ei wneud a’r gefnogaeth a gynigir.

Fe wnes 6 Cam i Lwyddiant a chwrdd â phobl hyfryd, yn ogystal â dysgu pethau am drethiant nad oeddwn yn eu gwybod o’r blaen. Hefyd, fe roddodd reswm i mi fynd mas ac roedd yr hyfforddydd gwaith yn dda iawn wrth wneud i mi deimlo’n gysurus.

Roedd gennym gyfarfod llywodraethwyr/cymdeithas rhieni ac athrawon y bore yma a dywedodd un rhiant eu bod wedi gwir fwynhau’r sesiwn gyntaf (Mathemateg Ystyrlon) ac yn edrych ymlaen yn fawr at ddod eto yr wythnos yma, felly diolch.

Fe wnes i lwyddo gwneud cwrs mynediad ar-lein yn 2021/22 tra’r oeddwn yn dal i weithio (gyda’r Lions Club yn ariannu) a roddodd ddigon o bwyntiau UCAS i mi fynd ar gwrs QTS. Erbyn hyn rwy’n fy ail flwyddyn Addysg Gynradd yn Met Caerdydd ac wrth fy modd yno!

Rwy’n aml yn meddwl pa mor ddiolchgar ydw i chi drefnu i wirfoddoli yn Dewstow: oherwydd fe wnaeth yn bendant gadarnhau i fi mai dyma’r hyn rwyf eisiau ei wneud!

Roedd yna gymaint o gyffro yn yr ystafell yn ystod Tonau a Straeon, a roedd yn wirioneddol hyfryd.

Rydych yn rhoi adnoddau gwych i ni ac mae’n eu mwynhau yn fawr iawn, diolch i chi. Rwy’n cael llawer o ddefnydd ohonynt. Diolch.

Fe wnes ddysgu mwy gennych heddiw nag a wnaeth fy athro mathemateg erioed ei ddysgu i fi.”

“Diolch i chi am fy nysgu.”

‘Trueni na wnaethon nhw ddysgu’r dull yna yn yr ysgol, mae hyn yn gymaint rhwyddach.

Cafodd y cwrs ei gyflwyno mewn ffordd fwy proffesiynol. Roedd arweinydd  y cwrs yn wybodus, profiadol a gyda ffocws ar ei ddeunydd pwnc. Cafodd y deunydd yn y cwrs ei baratoi’n dda iawn ac yn berthnasol. Diolch i chi am gwrs da iawn ac rwy’n edrych ymlaen at gymryd rhan mewn un arall.

“Roedd y gefnogaeth a gefais yn wych. Roedd yn help mawr i gael person cyfeillgar i sgwrsio heb eich beirniadu. Fe wnaethoch roi cymaint o anogaeth i fi nad oeddwn yn fethiant nac yn rhy hen i gael rhywbeth i’w gynnig.

Diolch i’r gefnogaeth a gefais, gallais cael cyfweliad yn Together Works yng Nghil-y-coed! Gofynnwyd i mi hefyd wirfoddoli gyda Iconnect a wnaeth i mi deimlo fy mod yn cael fy ngwerthfawrogi.

Roedd cefnogaeth fy hyfforddydd gwaith yn wych, ac roedd bob amser yn gwneud yn siŵr ei bod ar gael ar gyfer cyfarfodydd ac ymateb i fy negeseuon testun ac e-bost pryd bynnag oedd angen. Diolch iddi hi, rwyf hefyd wedi medru gwneud cais am esgidiau a dillad gwaith ar gyfer fy swydd newydd.

Diolch yn fawr iawn am yr holl gefnogaeth ac rwy’n ddiolchgar iawn am bopeth a wnaethoch i fi.”

“Cyn i mi gwrdd a’r tîm Cyflogaeth a Sgiliau roeddwn newydd golli fy swydd. Heblaw am fod yn ddi-waith, roeddwn yn teimlo’n ddihyder ac yn ansicr beth oeddwn eisiau ei wneud nesaf. Ar ôl gweld Gyrfa Cymru fe wnaethant anfon atgyfeiriad i mi weld Lynn yn Cyflogaeth a Sgiliau.

Roedd y cyswllt a gwasanaethau a gafwyd gan Cyflogaeth a Sgiliau yn rhagorol. Roedd gwybodaeth Lynn o’r farchnad swyddi yn anhygoel. Fe wnaethom drafod CVs, llythyrau egluro, cwestiynau yn cyfweliadau am swydd yn ogystal â chyfweliadau. Ar ôl cyrraedd cylch nesaf y camau cyfweliad fe wnaeth hyn fy helpu i gynyddu’r hyder a hefyd fy nghael yn nes at yr yrfa roeddwn yn dymuno ei chael.

​Yn y diwedd ar ôl llawer o gyfweliadau a cheisiadau am swydd roeddwn wedi llwyddo i gael y canlyniad roeddwn ei eisiau, sef cynnig gan Gyngor Somerset am swydd Prentis Gynllunydd ar ffurf prentisiaeth gradd. Byddwn yn canmol y gwasanaeth Cyflogaeth a Sgiliau i ddefnyddwyr i’w helpu i ganfod eu gyrfa nesaf.”

“Roedd Economi, Cyflogaeth a sgiliau yn wych hefo fi a rydw i wedi cael swydd wych gyda Airbus diolch iddynt, ar gyflog uwch na y fyddwn erioed wedi ddychmygu.”

“Yn gyntaf roeddwn eisiau datgan fy niolch diffuant am yr holl help a’r gefnogaeth yr ydych wedi ei roi i mi hyd yma. Roeddwn yn bryderus am ganfod gwaith mor gyflym ag y medrwn a chael yr holl gymwysterau oedd eu hangen i weithio yn y sector, ond mae eich cefnogaeth wedi lliniaru cymaint o’r pryder. Mae pobl fel chi yn gwneud y byd yn lle gwell, rwy’n teimlo mor ffodus i fod wedi cael cefnogaeth gennych hyd yma, bu eich cyngor cadarn, caredigrwydd a threfnu yn werthfawr tu hwnt i fi ac rwy’n gwirioneddol ei werthfawrogi. Diolch yn fawr.”

Os oes gennych ddiddordeb yn y gefnogaeth rydym yn eu gynnig:

Neu i weld ein cyrsiau, gallwch ymweld â’n tudalen digwyddiadau.