Cymorth i bobl ifanc

Rydym yn darparu cefnogaeth i bobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn NEET (nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant) trwy Allgymorth Ysbrydoli. 

Gall Ysbrydoli gefnogi pobl ifanc sydd yn yr ysgol i gynnal addysg llawn amser pan mae’r person ifanc yn wynebu rhwystrau. Gall y rhain gynnwys rhwystrau o ran presenoldeb, cyrhaeddiad, ymddygiad a lles.  

Bydd Ysbrydoli’n cynnig cefnogaeth wedi’i theilwra i bobl ifanc sy’n cael eu cyfeirio at y prosiect, megis: 

  • Cefnogaeth un i un sy’n seiliedig ar anghenion.  
  • Cymwysterau BTEC Lefel 2  
  • Mynediad i ystod ehangach o gymwysterau Cyflogadwyedd  
  • Cefnogaeth ar Leoliadau Ôl-16 gan ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael i’r person ifanc 
  • Cefnogaeth barhaus hyd at 19 mlwydd oed os yw’r person ifanc wedi cael trafferth dod o hyd i’r lleoliad addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant cywir ar ôl iddynt droi’n 16. 

Gall Allgymorth Ysbrydoli gefnogi pobl ifanc sy’n methu mwy na 50% o’r ysgol ar hyn o bryd, a hynny er nad oes ganddynt unrhyw anghenion meddygol sydd wedi’u diagnosio ar hyn o bryd. Bydd y Gweithiwr Allgymorth Ysbrydoli’n gweithio ar sail 1:1 gyda phobl ifanc sy’n cael eu hatgyfeirio gan yr ysgol neu’r Gwasanaeth Lles Addysg, gyda’r nod o gefnogi’r person ifanc i adnabod a mynd i’r afael â’r rhwystrau y maent yn eu hwynebu wrth ddychwelyd i addysg amser llawn cyn iddynt fod yn 16 oed. 

Os bydd y person ifanc yn ailintegreiddio’n llwyddiannus i’r ysgol, bydd cefnogaeth Ysbrydoli (yn yr ysgol) yn cymryd cyfrifoldeb ac yn sicrhau fod y gefnogaeth yn parhau cyhyd ag y mae ei hangen ar y person ifanc.    

Eleni gwelir lansio Rhaglen STEM Cyngor Sir Fynwy, prosiect a gefnogir gan gyllid Llywodraeth Cymru gyda’r nod o ddod â busnesau newydd i Sir Fynwy ac archwilio cysylltiadau rhwng busnesau ac ysgolion. Amcanion pellach y rhaglen yw datblygu dysgu STEM ysbrydoledig, cynyddu llwybrau Ôl-16 ac ymchwilio i ddichonoldeb canolfan brentisiaeth yn Sir Fynwy.

Drwy ymgysylltu â Llywodraeth Cymru, Aelodau Cabinet Cyngor Sir Fynwy, GCA, Coleg Gwent, busnesau lleol a phenaethiaid ysgolion (cynradd ac uwchradd), mae rhaglen gynhwysfawr o adnoddau, hyfforddiant a chefnogaeth yn cael ei datblygu a’i nod yw lansio gyda digwyddiadau cyffrous yn Nhymor yr Haf. Bydd adnoddau ar gyfer pob ysgol yn cynnwys ystod o offer codio, roboteg, peirianneg ac argraffu 3D, a byddant yn cael eu hategu gan raglen o rwydweithiau ysgol-i-ysgol, gweithdai dosbarth ac ymgysylltu â busnesau i helpu i ymgorffori STEM yn llawn yng Nghwricwlwm yr ysgol.

Rhai o ganlyniadau cytunedig y rhaglen yw bod mwy o ddysgwyr yn dewis cymryd pynciau STEM yn CA4 a CA5; mae’r ystod o gymwysterau a llwybrau STEM sydd ar gael i ddysgwyr CA4 a CA5 yn cynyddu; mae dysgwyr yn ymwybodol o gyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant STEM ac yn cael eu galluogi i ddilyn eu llwybr a’u gyrfa ddewisol; ac mae busnesau STEM yn gallu recriwtio gweithwyr hynod frwdfrydig a medrus gan eu galluogi i leoli ac ehangu yn Sir Fynwy.

Mae’r rhaglen bellach yn symud ymlaen yn gyflym, gydag adnoddau i ddechrau cael eu cyflwyno i ysgolion yn Nhymor yr Haf a hyfforddiant a chefnogaeth yn cael eu cynnig ar ddechrau’r flwyddyn academaidd nesaf. Mae wedi cael derbyniad cadarnhaol gan yr holl randdeiliaid dan sylw ac mae’n gyfle cyffrous i ddysgwyr yn Sir Fynwy.