Gwasanaethau Cwsmeriaid (Y Fenni)

Dyddiad ac Amser
Mehefin 17, 2025 9:30 am-1:30 pm
Lleoliad
Hyb Cymunedol y Fenni, Town Hall, Cross Street, Abergavenny, NP7 5HD
Manylion
Bydd y cwrs hwn yn rhoi’r wybodaeth a’r technegau i chi ar gyfer gwasanaeth cwsmeriaid mewn amrywiaeth o rolau. Mae’r Dyfarniad Highfield Lefel 2 mewn Gwasanaeth Cwsmeriaid (Fframwaith Cymwysterau Rheoleiddiedig) wedi’i gynllunio i baratoi dysgwyr ar gyfer gwaith mewn rôl gwasanaeth cwsmeriaid neu ar gyfer y rhai y mae eu swydd eisoes yn cynnwys elfen o wasanaeth cwsmeriaid.
Mae pynciau’r cwrs yn cynnwys:
- Egwyddorion gwasanaeth cwsmeriaid
- Sut mae anghenion a disgwyliadau’n cael eu ffurfio
- Sgiliau rhyngbersonol
- Ymddygiad priodol
- Ymateb i broblemau a chwynion
Os ydych yn edrych i gynyddu eich gwybodaeth ynghylch egwyddorion gwasanaeth cwsmeriaid yna efallai dyma’r cwrs i chi.
I gael mynediad i’n cyrsiau a derbyn cefnogaeth i ddod o hyd i waith, cwblhewch ein ffurflen a bydd ein tîm mewn cysylltiad!